Llwybrau a Theithiau
Archwiliwch Sir y Fflint gyda’i amryw drefi marchnad braf, a theithio drwy Barciau Gwledig a chefn gwlad syfrdanol, coedydd hardd, cymoedd ac ucheldiroedd. Yn Sir y Fflint hefyd mae cyfoeth o deithiau hanesyddol a diwylliannol, boed hynny ar ddeudroed, ar gefn beic neu mewn car, mae darpariaeth ar gyfer pob oed a gallu.
Llwybrau a Theithiau
Taith Hamdden Sir y Fflint – gyrru a gweld. 83 milltir o gefn gwlad, morlin, trefi marchnad ac atyniadau hanesyddol yw’r Daith Hamdden, wedi’i rhannu’n naw rhan hawdd eu gyrru. Wnewch chi mo’r cyfan mewn diwrnod, ond fe gewch hwyl yn rhoi cynnig arni. Ar y ffordd, gallwch adael y car a chwilota oddi ar y llwybr pan fyddwch yn teimlo felly.
Llwybr Treftadaeth Treffynnon
Cyfle i ddarganfod treftadaeth gyfoethog Treffynnon, o’r 7fed ganrif i’r chwyldro diwydiannol, ar y llwybr treftadaeth diddorol hwn drwy’r dref.Gan ddechrau yn y Stryd Fawr, mae’r llwybr yn eich arwain trwy Ddyffryn Maes-glas, yna’n ymuno â llwybr hynafol y pererinion i Abaty Dinas Basing a Ffynnon Gwenffrewi gyda bywyd gwyllt cyfoethog a golygfeydd hyfryd ar y ffordd.
Llwybr Tref yr Wyddgrug
Cyfle i archwilio gorffennol diddorol yr Wyddgrug ar y llwybr hwn drwy’r dref. Gan ddechrau wrth gerflun Daniel Owen ‘tad y nofel Gymreig’, mae’n dangos llawer o fannau hanesyddol diddorol y dref i chi gan gynnwys bedd y tirlunydd Richard Wilson, y Neuadd Gynnull, yr Hen Lys ac adfeilion y castell ‘Tomen a Beili’ Normanaidd ar ben Bryn y Beili.

Llwybr Treftadaeth Bwcle
Trwy ddilyn arwyddion y cerfluniau a mannau gwybodaeth ar y llwybr treftadaeth hwn cewch gip ar orffennol diwydiannol Bwcle a thu hwnt. Mae’r llwybr yn mynd heibio llawer o fannau diddorol sy’n dathlu diwydiannau crochenwaith a gwneud brics blaenorol y dref, yn ogystal â Back Lane, lôn dawel oedd unwaith yn llwybr masnach prysur rhwng Cymru a Lloegr a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid.
Connah’s Quay Industrial Heritage Walk
Mae’r llwybr hwn yn tynnu sylw at y cyfraniad pwysig a wnaeth Cei Conna i’r economi lleol ac mae’n ceisio cadw’r Etifeddiaeth Ddiwydiannol hon i’r cenedlaethau a ddaw. Cyfle i ddarganfod hanes treftadaeth ddiwydiannol nad oes llawer o sôn amdani.
Ffordd y Pererinion, Gogledd Cymru
Mae Ffordd y Pererinion yn rhedeg am 130 milltir o Dreffynnon, “Lourdes Cymru”, i Ynys Enlli, yr enwog “Ynys 20,000 o Seintiau”, oddi ar Ben Llŷn. Yn lwybr pererindod yn y Canol Oesoedd, cafodd ei ail-sefydlu yn 2011 gan gysylltu cysegrfeydd cysylltiedig â St Winifrede. Mae’r daith gerdded 64 milltir, wyth niwrnod yn dechrau yn adfeilion Abaty Dinas Basing ac yn gorffen yn Llanfairfechan ar arfordir Bae Conwy. Mae’r gost yn £599 ac yn cynnwys llety tair seren, y rhan fwyaf o brydau bwyd, cludiant ac arweinydd taith.
Ramblers Worldwide Holidays (01707 331133; ramblersholidays.co.uk)
No locations found.