Trefi a Lleoedd

Ymwelwch â threfi diddorol fel yr Wyddgrug gyda’i marchnad brysur ar y stryd, Amgueddfa Daniel Owen a’i Gŵyl Bwyd a Diod flynyddol; Treffynnon gyda’i marchnad a chartref Ffynnon Gwenffrewi; y Fflint gyda’i chastell canoloesol a Thalacre a Gronant gyda’u traeth gwobrwyol Baner Felen – dim ond ychydig o’r safleoedd a lleoedd i archwilio diwylliant croesawus Sir y Fflint.

Mae ffurfiau traddodiadol ar siopa i’w cael drwy’r sir i gyd ac mae gennym Barc Manwerthu Brychdyn lle mae llawer o enwau’r stryd fawr.

dashedSeperator

ARCHWILIO’R WYDDGRUG


Tref farchnad draddodiadol yn swatio yng nghysgod Bryniau Clwyd. Bu marchnad stryd yn yr Wyddgrug ers y canoloesoedd ac mae’n dal yn farchnad fwyaf a gorau Gogledd Cymru hyd heddiw.

Profiad siopa gwahanol bob diwrnod o’r wythnos.

Bydd marchnad ar y stryd bob dydd Mercher a dydd Sadwrn (rhwng 9am a 3:30pm) drwy gydol y flwyddyn. Fe welwch y farchnad brysur hon ar y Stryd Fawr a thrwodd i Sgwâr Daniel Owen. Yno fe gewch 70 a mwy o stondinwyr yn aros i’ch denu gyda bargen wych, rhywbeth gwahanol neu ddim ond profi awyrgylch y farchnad stryd brysuraf yng Ngogledd Cymru.

Mae’r dref yn croesawu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau gyda lle amlwg i Ŵyl Bwyd a Diod flynyddol www.moldfoodfestival.co.uk a Gŵyl Gerdd Blues & Soul www.moldbluesandsoul.co.uk .

Fel porth i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, bydd cefn gwlad bendigedig ar gael i chi, i gyd o fewn cyrraedd rhwydd. www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/cymraeg/

Mae ymweliad â Clwyd Theatr Cymru’n anhepgor. Dyma theatr gynhyrchu arweiniol Cymru. Mae hefyd yn sinema, lleoliad cyngherddau, gofod arddangos, tŷ bwyta a siop lyfrau. Ac mae hyfryd iawn o’r bar. www.clwyd-theatr-cymru.co.uk/cy#1

dashedSeperator

ARCHWILIO TREFFYNNON


Daw enw Treffynnon o brif nodwedd y dref, Ffynnon Gwenffrewi hanesyddol; un o Saith Ryfeddod Cymru. Adeilad rhestredig gradd 1 a heneb restredig a adeiladwyd ar ddechrau’r 16eg ganrif, mae’r adeilad hardd a soffistigedig hwn yn berl o bensaernïaeth sythlin ddiweddar ac mae’n unigryw yn y byd. Bu’r ffynnon yn denu pererinion yn barhaol ers dros 1300 o flynyddoedd.

Fel tref ddynodedig Croeso i Gerddwyr bydd peth o’r cefn gwlad gorau yng Ngogledd-ddwyrain Cymru wrth law. Yn ystod gŵyl gerdded flynyddol ym mis Mehefin mae tri diwrnod o deithiau cerdded tywysedig pob un o hyd gwahanol.

Mae’r dref yn croesawu rhaglen helaeth o ddigwyddiadau gyda manylion amdanynt yma.

Parc hirfain 1½ milltir o hyd yw Parc Gwledig a Threftadaeth Dyffryn Maes-glas yn dilyn nant Treffynnon rhwng y dref ac aber Dyfrdwy. Yn y parc mae rhodfeydd mewn coetir a phump o lynnoedd bach yn cynnwys llyn pysgota, i gyd yn llawn bywyd gwyllt, ynghyd ag amgueddfa fferm ac adeiladau cadwedig ac atgofion eraill o orffennol diwydiannol y dyffryn – http://www.greenfieldvalley.com/

Taith Pererin Gogledd Cymru

Erbyn hyn arwyddwyd llwybr, yn cysylltu eglwysi hynafol a gysegrwyd i saint y 6ed ganrif sydd â’u ffydd dawel, ynghyd ag ymdeimlad o harddwch a rhyfeddod natur, yn dal i daro tant â ni heddiw.
Abaty Dinas Basing sy’n nodi man cychwyn Taith Pererin Gogledd Cymru. Mae’r llwybr yn arwain trwy goetir a thros afonydd, i fyny mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir, trwy ddiffeithwch ac i bentrefi. Mae’n dathlu etifeddiaeth y saint Celtaidd hynny y collwyd eu hanesion yn niwl yr oesoedd ond sydd â’u hatgof yn atseinio mewn eglwysi hynafol ac wrth ffynhonnau sanctaidd ar y ffordd.

http://www.pilgrims-way-north-wales.org/

dashedSeperator

ARCHWILIO’R FFLINT

Darganfod y Fflint arfordirol

Rhyfeddwch at adfeilion Castell y Fflint, sef y cyntaf o gylch cestyll arswydus Edward I o gwmpas arfordir y Gogledd. Dychmygwch ef yn ei anterth pan oedd yn rhoi stamp awdurdod y brenin ar hyd a lled y fro.

Ystyriwch wyneb newidiol arfordir y Fflint. Roedd y cadarnle milwrol a phorthladd blaenorol hwn ar lan y môr ac yn ardal ddiwydiannol brysur. Bellach mae’n dawel eto, pwysig yn rhyngwladol oherwydd ei adar, ac yn lle braf i gerdded ynddo.

Mwynhewch y golygfeydd eang allan i’r môr, y gorwel diwydiannol dramatig i’r dwyrain, crïoedd hiraethus adar y môr, glesni mwyn y morfa heli, a min awyr y môr.

Gallwch archwilio’r arfordir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sydd newydd ei ddatblygu, gan un ai barcio yn un o’r meysydd parcio ger y castell, cerdded o’r dref ar hyd Nant Swinchiard, neu o’r orsaf drenau.

Mae Arfordir Sir y Fflint yn ymestyn am 25 milltir / 40km o Gaer i’r Gronant. Man arbennig iawn yw Aber Dyfrdwy lle mae diwydiant hen a newydd yn sefyll ochr yn ochr â pherlau hanesyddol fel Castell y Fflint, gyda bywyd gwyllt sy’n bwysig yn rhyngwladol oddi amgylch.

Mae arwyddion da ar y llwybr ac mae digonedd o fannau i aros am seibiant haeddiannol ar y ffordd. Yn llawer o’r mannau gwylio mae paneli neu gelfwaith yn dweud hanes yr arfordir a’r bobl a’i lluniodd.

Os nad oes gennych amser droedio’r llwybr i gyd yna mae 5 o bethau hanfodol i wneud ar hyd Arfordir Sir y Fflint.

√ Gweld cychod a’r pysgotwyr ar Ddoc Maes-glas
√ Archwilio Castell a Thrwyn y Fflint
√ Ymgolli yn yr olygfa o Lofa Bettisfield
√ Mwynhau’r machlud o Ddoc Cei Conna
√ Chwilio am gregyn ar Draeth Talacre

Mae rhagor o fanylion a lleoliadau’r uchod i’w cael yma

dashedSeperator

ARCHWILIO GLANNAU DYFRDWY

Morio ac adeiladu llongau oedd y prif ddiwydiant yng Nghei Conna unwaith gyda thair llithrfa rhwng The Rock a The Old Quay House. Rhwng 1857 a 1957, adeiladwyd dros 50 o longau yma, rhai ohonynt hyd at 300 tunnell! Y prif lwyth fyddai brics a theils o Fwcle a Phentre-moch ond roeddent hefyd yn cludo amrywiaeth o lwythi eraill gan gynnwys coed, haearn bwrw a gwrtaith.
Mae’r Ganolfan Dreftadaeth yn Llyfrgell Cei Conna’n arddangos arteffactau o ddiddordeb lleol cysylltiedig â hanes diwydiannol Cei Conna.

Parc Gwledig Gwepra

Dewch â’r plant i’r man chwarae gorau yn y Sir, crwydrwch ar hyd nant Gwepra, neu ddim ond mynd am dro drwy olion stad fawreddog Plas Gwepra a’i choetiroedd deniadol at adfeilion Castell Ewlo o’r 12fed ganrif. Mae gwybodaeth am y parc, rhaglen flynyddol digwyddiadau cefn gwlad a lluniaeth i gyd ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr. Maes parcio di-dâl.
www.siryfflint.gov.uk/cefngwlad

Yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy gallwch ysglefrio ar Lawr Rhew maint Olympaidd. Gallwch sgrialu, dringo mur neu roi cynnig ar gwrs rhaffau uchel yn y Parth Eithafol. Yna dadflino yn sba ddydd gyhoeddus gyntaf Cymru. www.siryfflint.gov.uk/hamdden

Y Llwybr Beicio Cenedlaethol

Mae grym pedalau’n ffordd wych o fynd o gwmpas y Sir www.sustrans.org.uk

dashedSeperator

ARCHWILIO BWCLE

Archwilio Gorffennol Diwydiannol Bwcle

Bydd y llwybr treftadaeth yn eich tywys o gwmpas yr ardaloedd a’r adeiladau o ddiddordeb hanesyddol, gan nodi’r amwynderau cyhoeddus yn y cylch. Mwynhewch glywed hanes yr ardal. I gael rhagor o wybodaeth gallwch ymweld â Llyfrgell / Amgueddfa Bwcle.

Gallwch ymuno â’r llwybrau yn unrhyw un o’r lleoliadau. Rhannwyd y Llwybr yn ddau liw, glas am Llwybr y Dref a choch am y Llwybr Treftadaeth.

Parth cerddwyr yn unig yw Canol Tref Bwcle, lle mae canolfan siopa fodern, digonedd o barcio ac amrywiaeth o siopau sy’n gallu cyflenwi holl nwyddau a gwasanaethau.

Cliciwch yma i gael y tywysydd llwybr i lywio ac archwilio gorffennol diwydiannol Bwcle.

dashedSeperator

ARCHWILIO MORFA CAER

Archwiliwch Forfa Caer yn union i’r gorllewin o’r ffin â Sir Gaer yn Lloegr lle’r oedd y porth i Gymru ar gyfer Llengoedd y Rhufeinig seiliedig yng Nghaer ac sy’n dal yn un o’r llwybrau prysuraf i Ogledd Cymru heddiw. Daw’r enw o’r morfa heli blaenorol ar lan y Ddyfrdwy, y codwyd y gymuned arno. Yma unwaith oedd pen Camlas Syr John Glynne ac roedd yn enwog am adeiladu llongau a gwneud cadwyni.

dashedSeperator

ARCHWILIO TALACRE A GRONANT

Lle gwych beth bynnag y tywydd! Mae’r traeth yn haeddiannol boblogaidd, gyda milltiroedd o dywod euraid gyda dyfroedd glân Môr Iwerddon yn torri arno. Mae golygfeydd helaeth tua’r gorllewin, gogledd a dwyrain.
Adeiladwyd y goleudy eiconig yn 1776 ond rhoddwyd y gorau i’w ddefnyddio yn 1884. Yn 18 metr o uchder, nid yw’n arbennig o fawr ond, serch hynny, mae’n eithaf trawiadol. Ar benllanw, nid oes cysylltiad rhyngddo â’r traeth ar draws ryw 40 llath o ddŵr; felly peidiwch â chael eich gadael yno!
Ceisiwch ymweld ar godiad haul, pan fydd y traeth cyfan yn troi’n lliw menyn, gyda dim ond crïau’r gwylanod i aflonyddu ar yr olygfa.
Mae’r ardal o gwmpas y traeth yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn y twyni mae casgliad prin o lyffantod y twyni, ac mae aber Dyfrdwy’n lloches hanfodol i adar yn gaeafu. Os ydych eisiau cael gwybod mwy ymwelwch â gwefan y RSPB.

Galwch heibio’r Man Hysbysu Ymwelwyr ym Mhentreperyglon a chael gwybod am yr holl bethau y gallwch edrych arnynt a’u mwynhau yn ystod eich amser yn y cylch. http://www.dangerpoint.org.uk/

Clwydian-Range-and-Dee-Valley

Clwydian-Range-and-Dee-Valley

clwydian-range-tourism

Clwydian Range Tourism Group

flintshire-business

Flintshire Business Week

FTA

Flintshire Tourism Association

north-east-wales

North East Wales

visit-wales

Visit Wales